NAWR • NOW | GORFFENNOL • PAST

CATRIN LLWYD EVANS

GYDA’R HWYR • AFTER DARK

14|03 - 26|04|25


  • [English below]

    Mae TEN yn falch o gyflwyno arddangosfa unigol gan yr arlunydd Catrin Llwyd Evans, ei phedwaredd yn yr oriel

    Mae’r casgliad hwn o baentiadau newydd yn parhau â thema Llwyd Evans o dirweddau llawn naratif ac awgrymiadau o bresenoldeb dynol, gan gynnig cipolwg ar olygfeydd a straeon posib. Caiff ei phaentiadau eu hysgogi gan ei harsylwadau o’i mamwlad – boed stori, liw, cyfansoddiad arbennig neu emosiwn. Ar adegau yn gwyro tuag at yr haniaethol, mae’r paentiadau’n symud rhwng realiti a rhith – gan brocio ryw gof sy’n amwys o gyfarwydd

    Wedi'u gosod yn yr oriau rhwng cyfnos a chodiad y lleuad, mae'r paentiadau olew ar gynfas hyn yn dywyll ac ynfwrn. Mae'r palet lliw yn dawel - heblaw am ambell lun sydd â haen cychwynol o liw neon llachar, sy’n sbecian drwy'r ddelwedd orffenedig. Mae'r marciau paentio yn hyderus, ac yn llifo’n ddi-oed, sy’n arwain at weithiau celf sy'n llawnansawdd paentio hyfryd

    Dros y blynyddoedd, mae maint paentiadau Llwyd Evans wedi cynyddu – o ddyfrlliwiau bach i’r mwyaf hyd yn hyn, sef gwaith mewn olew sy’n mesur 170x150cm. Mae ‘In the Light of the Moon’ yn ganolbwynt i’r arddangosfa, sef lleuad llawn llachar mewn awyr dywyll ddigwmwl uwchben silwét o ddail y coed. Mae delwedd bron yn union yr un fath - ‘Full Moon’ yn fach iawn mewn cymhariaeth, 23cm o hyd, gyda lleuad melyn, ei llewyrch yn treiddio allan. Yr un yw agwedd Llwyd Evans tuag at ei phroses paentio, beth bynnag fo maint yr arwyneb, sef sgìl y marciau brwsh cain, egnïol i fynd â ni i’r mannau hynny sydd yn agos at ei chalon

    TEN is delighted to present a solo exhibition by painter Catrin Llwyd Evans, her fourth at the gallery

    This collection of new paintings continue Llwyd Evans’s theme of narrative-filled landscapes, imbued with hints at human presence, offering glimpses of scenes and stories. Her paintings are prompted by her observations of her homeland – a story, colour, a particular composition or an emotion. At times veering towards the abstract, the paintings fluctuate between reality and illusion - rousing a memory or ambiguous familiarity

    Set in the twilight hours between dusk and moonrise, these oil on canvas paintings are dark and moody. The colour palette is muted - save for a few examples of bright neon ground, peeking through the painted image. The mark-making is confident, flowing and immediate, resulting in artworks full of painterly quality

    Over the years, the scale of Llwyd Evans’s paintings have grown - from small watercolours to the biggest yet, a 170x150cm oil. ‘In the Light of the Moon’ takes centre stage, a bright full moon in a cloudless darkening sky above silhouetted tree-tops. A near identical image - ‘Full Moon’ is minute in comparison, 23cm in length, with a yellow moon, its glow pulsating. Llwyd Evans’s approach to her process remains the same, whatever the scale of the surface, and that is the skilled, delicate, energetic brushstrokes which transports us to those places close to her heart

  • ‘Mae ‘Gyda'r Hwyr’ yn archwilio dirgelwch tawel tirweddau’r nos - lle mae tai yn cuddio ymhlith y coed, eu goleuadau gwan yn fflachio fel signalau pell, a’r lleuad llawn yn taflu ei lewyrch dros olygfeydd tawel. Trwy'r paentiadau hyn, ceisiaf ddal gofod cyfriniol y nos, lle mae mannau cyfarwydd yn troi'n arallfydol a lle mae teimladau anweledig o fewn cyrraedd. Mae cysgodion a golau, absenoldeb a phresenoldeb, unigedd a rhyfeddod i gyd yn cydblethu i wahodd y gwyliwr i fyd sy'n agos ac eto yn anadnabyddadwy, yn cael ei weld a'i deimlo wedi iddi dywyllu

    ‘‘After Dark’ explores the quiet mystery of night time landscapes — where houses hide among the trees, their faint lights flickering like distant signals, as the full moon casts its glow over silent scenes. Through these paintings, I seek to capture the mysterious space of night, where familiar places take on an otherworldly presence, and the unseen feels just within reach. Shadows and light, absence and presence, solitude and wonder — all intertwine to invite the viewer into a world that is both intimate and unidentifiable, seen and felt only after dark’ - Catrin Llwyd Evans

  • Wednesday - Saturday 10:30 - 17:00

    The Coach House, Rear of 143 Donald Street, Cardiff, CF24 4TP

    +44 (0) 29 2060 0495

    info@gallery-ten.co.uk

    Instagram 

    Map

  • Artworks can be purchased online or by contacting the gallery.

    Ein Celf Own Art

    Own Art is a national initiative providing interest-free credit for the purchase of original artwork. The purchase is split over 10 interest-free instalments, with no deposit, up to £2500.

    To purchase an artwork through Own Art contact the gallery to be sent an online form: info@gallery-ten.co.uk  |  029 2060 0495

    Klarna | Purchase is split over 4 interest-free instalments [option available at checkout]

    VAT Prices stated on this website are exclusive of VAT Margin (8.3%). VAT is added at checkout if applicable.