15

Carwyn Evans • Laura Ford • James Rielly • Sue Williams

Mae TEN yn falch o gyflwyno ‘15’, arddangosfa sydd yn dathlu pymtheng mlynedd ers sioe gyntaf yr oriel • TEN is proud to present '15', an exhibition celebrating fifteen years since the gallery's very first exhibition

03|02 - 02|03|2024

  • Mae TEN yn falch o gyflwyno ‘15’, arddangosfa sydd yn dathlu pymtheng mlynedd ers sioe gyntaf yr oriel

    Yn rhan o’r arddangosfa gynnil a phwerus hon mae pedwar o artistiaid yr oriel - y cerflunwyr Carwyn Evans a Laura Ford a’r peintwyr Sue Williams a James Rielly. Dyma arddangosfa sydd yn amlygu yr hyn y mae’r oriel yn ei gynrychioli - diben sydd wedi aros yn gyson wrth iddi esblygu a thyfu dros bymtheng mlynedd - sef hyrwyddo diwylliant cyfoes, uchelgeisiol a hyderus Cymreig

    Croesawa’r arddangosfa yr artist James Rielly i’r oriel. Bellach yn byw yn Ffrainc, magwyd Rielly yng Nghaergybi a bu’n rhan o sîn gelf Llundain y 90au fel un o’r YBA’s nodedig - â’i waith wedi’i gynnwys yn arddangosfa ‘Sensations’ Saatchi. Gweithia gyda phaent olew ar gynfas a dyfrlliw ar bapur, a cynnigia baentiadau Rielly ryw naratif rhyfedd ac ansefydlog, fel stori dylwyth teg Grimm - yn gynnil ond yn gynhenid dywyll

    Gellir disgrifio cerfluniau Laura Ford yn yr un ffordd - rhyfeddol a ffantasïol, weithiau’n sinistr ond yn llawn hiwmor. Yn gerflunydd a storïwraig o fri, mae creaduriaid Ford yn gyffyrddadwy dros ben, wedi eu creu mewn efydd, jesmonite a serameg, ac yn gwisgo rhwymau gwych o wlân a ffelt. Wedi cynrychioli Cymru yng ngwyl Fenis 2005, ystyrir Ford fel un o gerflynwyr blaengar yr DU - a hithau yw cadeirydd cyfredol y Royal Sculpture Society

    Bydd paentiadau newydd ar raddfa fawr gan yr artist amlwg Sue Williams yn cael eu dangos am y tro cyntaf. Yn debyg i dudalennau o ddyddiadur gweledol - a gyhoeddir i bawb i'w gweld - adrodda baentiadau eofn Williams hynt A helynt sefyllfaoedd lletchwith a phrofiadau erotig. Mae'r gwaith yn amrwd ac yn gyflawn; cryf, llawn bwrlwm a heriol - ac yn mynnu sylw gan y gwyliwr

    Bydd cerflun safle-benodol gan Carwyn Evans yn sefyll yn yr oriel - minimal ei ffurf ond eto'n drwm gyda chyfeiriadau sy'n croesi'r llenyddol, diwylliannol a bywgraffyddol. Ar ôl ennill gradd Meistr mewn Cerflunio o’r Coleg Celf Brenhinol ac ennill y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2012, mae Evans yn artist blaenllaw yng Nghymru. Mae'n sefyll wrth y gyffordd lle defnyddia deunyddiau sydd ag elfen swyddogaethol mewn un byd yn cael eu hail-gyfieithu, eu chwarae a'u cyflwyno yn ôl i ni mewn cyd-destun oriel. Bydd print ag argraffiad cyfyngedig gan Evans hefyd ar gael i ymwelwyr fynd ag ef adref, yn debyg i berfformiad parhaol, fel coffadwriaeth o'r achlysur

    TEN is proud to present '15', an exhibition celebrating fifteen years since the gallery's very first exhibition

    On show as part of this concise and powerful exhibition are four of the gallery's artists - the sculptors Carwyn Evans and Laura Ford and painters Sue Williams and James Rielly. This is an exhibition that highlights what the gallery represents - a purpose that has remained constant as it has morphed and evolved and grown over the years - which is to promote ambitious, confident and forward-thinking contemporary Welsh culture

    The exhibition welcomes the artist James Rielly to the gallery stable of represented artists. Now living in France, Rielly grew up in Holyhead and was part of the London art scene in the 90s as one of the notable YBA's - with his work included in Saatchi's infamous 'Sensation' exhibition. He works with oil paint on canvas and watercolour on paper, with his paintings offering a bizarre and unsettling narrative, like a Grimm fairytale - subtle but inherently dark

    Laura Ford's sculptures can be described in a similar way - wonderful and fantastical, sometimes sinister but full of humour. A renowned sculptor and storyteller, Ford's creatures are inherently tactile, rendered in bronze, jesmonite and ceramic, and clothed in brilliant swathes of wool and felt. Having represented Wales at the 2005 Venice Biennale, Ford is regarded as one of the UK's leading sculptors - and she is the current chair of the Royal Society of Sculptors

    New large-scale paintings by the prominent Artes Mundi 2 shortlisted artist Sue Williams will be shown for the first time. Akin to pages from a visual diary, published for all to see, Williams’s characteristically bold and immediate paintings tell of awkward encounters, sticky situations and erotic experiences. The work is raw and accomplished; strong, charged and challenging - and demands attention from the viewer

    A site-specific sculpture by Carwyn Evans will stand in the gallery - minimal in form yet heavy with references which traverse the literary, cultural and biographical. Having earned a Masters degree in Sculpture from The Royal College of Art and won the Gold Medal for Fine Art at the National Eisteddfod in 2012, Evans’s is a leading artist in Wales. He sits at the junction where his materials have a functional element in one world but are then re-translated, played with and presented back to us in a gallery setting. A limited-edition print by Evans will also be available for visitors to take home, akin to a durational performance, as a memento of the occasion

  • The Coach House

    Rear of 143 Donald Street, Cardiff, CF24 4TP

    Map

  • Monday Closed

    Tuesday Closed

    Wednesday 10:30 - 17:00

    Thursday 10:30 - 17:00

    Friday 10:30 - 17:00

    Saturday 10:30 - 17:00

    Sunday Closed